Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 1 - Y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 15 Ionawr 2015 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09.30 - 12.40 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Rees AC (Cadeirydd) Alun Davies AC Janet Finch-Saunders AC John Griffiths AC Elin Jones AC Darren Millar AC Lynne Neagle AC Gwyn R Price AC Kirsty Williams AC (ar gyfer eitemau 1 i 5) Peter Black AC (yn lle Kirsty Williams AC ar gyfer eitemau 7 a 10) |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Dan Greaves, Y Swyddfa Gartref Angela Scrutton, Y Swyddfa Gartref Kirsty Williams AC Philippa Watkins Lisa Salkeld |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Llinos Madeley (Clerc) Helen Finlayson (Ail Clerc) Sian Giddins (Dirprwy Glerc) Enrico Carpanini (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol) Amy Clifton (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
Trawsgrifiad
Gweld trawsgrifiad o'r cyfarfod.
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Lindsay Whittle.
2 Papurau i'w nodi
2.0a Nododd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 10 Rhagfyr.
2.1 Ymchwiliad i broses gwynion y GIG: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2.1a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
2.2 Ymchwiliad dilynol i'r cyfraniad a wneir gan fferyllfeydd cymunedol i wasanaethau iechyd yng Nghymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2.2a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
2.3 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon”): gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2.3a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
2.4 Blaenraglen waith y Pwyllgor: gohebiaeth gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg
2.4a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
2.5 Craffu ar waith Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru: gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
2.5a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.
2.6 Gohebiaeth gan y Pwyllgor Deisebau: P-04-570 Argaeledd Anghyfartal o ran Triniaethau nad ydynt wedi’u Harfarnu’n Genedlaethol gan GIG Cymru
2.6a Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau i dynnu sylw at ei waith diweddar mewn perthynas â'r broses Cais Cyllido Cleifion Unigol.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitemau 4 a 5
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4 Ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau: paratoi ar gyfer gweithgarwch ymgysylltu
4.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y trefniadau ar gyfer gweithgaredd ymgysylltu'r ymchwiliad i gamddefnyddio alcohol a sylweddau.
5 Gwybodaeth ddilynol am yr ymchwiliad undydd i farw-enedigaethau yng Nghymru: ystyried y dystiolaeth
5.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd a'r adroddiad diweddaru gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Gweinidog i nodi'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn, ac i ofyn am ragor o wybodaeth am rai materion penodol a godwyd yn y dystiolaeth.
6 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): sesiwn dystiolaeth 8
6.1 Bu’r tystion yn ateb cwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
6.2 Cytunodd y tystion i ddarparu rhagor o wybodaeth am y broses a ddefnyddiodd cydweithwyr yn y Swyddfa Gartref i ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig ynghylch deddfwriaeth Ewropeaidd arfaethedig ym maes sylweddau seicoweithredol newydd.
7 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): sesiwn dystiolaeth 1
7.1 Ymatebodd yr Aelod sy'n gyfrifol am y Bil (Kirsty Williams) i gwestiynau gan yr Aelodau.
7.2 Cytunodd yr Aelod sy'n gyfrifol i roi amlinelliad i'r Pwyllgor o ba ddangosyddion nyrsio diogel a amlinellir yn adran 3(5) o'r Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) sy'n deillio o ganllawiau'r Prif Swyddog Nyrsio a chanllawiau NICE a pha rai a gafodd eu cynnwys o ganlyniad i'r ymatebion i'w hymgynghoriadau ar y Bil.
8 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 (vi) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod
8.1 Derbyniwyd y cynnig.
9 Ymchwiliad i sylweddau seicoweithredol newydd ("cyffuriau penfeddwol cyfreithlon"): ystyried y dystiolaeth a ddaeth i law.
9.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth.
10 Y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru): ystyried y dystiolaeth
10.1 Ystyriodd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.